Draw'r wlad,
O'r lle'r wy'n dysgwyl llwyr ryddhâd,
O law'm gelynion
mawr eu brad:
Trwy rinwedd gwa'd
fy Iesu gwiw,
'D oes gelyn mwy a ddaw i'r lan,
I'r hyfryd fan,
ar fyr ca'i fyw.
Y llen,
Sydd rhyngwy'n awr a'r nefoedd wèn,
A rwyga Nuw
o'r ddae'r i'r nen;
I'r wlad uwch ben, 'fe'm harwain ef,
Caf ddringo i'm
gorphysfa fraf,
Sy'n mynwes Naf,
o fewn i'r Nef.
A byw
Ga'i 'n dawel fry
heb boen na briw,
A'm cynnhes nyth yn nghôl fy Nuw,
Lle mae pob rhyw ddiddanwch llawn;
Yn rhydd i'r llwch
mi rown fy nghnawd,
Fyn'd at fy Mrawd yn awr, pe cawn.
Mor fawr
Yw'r syched sy ar f'enaid 'nawr,
Am wel'd dy wedd,
O! hyfryd wawr -
Boreuddydd tragwyddoldeb pur;
Ymado'n rhwydd â châr a ffrynd
A wnawn, gael myn'd
i'r nefol dir.
Bob pryd,
Ffarwel i ti, ddaearol fyd,
'Does yma i'w gael
ond gwae i gyd:
Mae'm trysor drud mewn ninas draw,
Mae 'nghalon eisoes gyda'm Brawd,
Lle bydd fy nghnawd i maes o law.
- - - - -
Mae gwlad,
I'r hon 'rwy'n dysgwyl cael rhyddhad,
O law gelynion
mawr eu brad,
Trwy rinwedd gwaed
yr Iesu gwiw;
'Does gelyn byth
a ddaw i lan
Yr hyfryd fan
ar fyr caf fyw.
O doed,
Yr hyfryd fore gorau erioed,
I'r sawl sy'n dilyn ôl ei droed,
Pob ofnau ífoed, darfydded braw;
Rho'th gariad im', addfwynaf Oen,
Mi garaf son am ddydd a ddaw.
William Williams 1717-91
Tonau [288.888]: gwelir: Mae mae (Y dydd yn d'od i'r duwiol rai) Mae mae (Yr amser hyfryd yn nesâu) Y groes (Yw etifeddiaeth fawr fy oes) Y llen (Sydd rhyngwy'n awr a'r nefoedd wen) |
Yonder is the land,
From which I await complete freedom,
From the hand of my enemies
of great treachery:
Through the merit of the blood
of my worthy Jesus,
No enemy shall come up any more,
To the delightful place, where
shortly I shall get to live.
The curtain
That is between me now and bright heaven,
My God shall rend
from the earth to the sky;
To the land overhead, he leads me,
I shall get to climb to my
good resting-place,
That is in the bosom of my Lord,
within heaven.
And to live
Quietly above I may get
without pain or bruise,
With my warm nest in the bosom of my God,
Where is every kind of full comfort;
Freely to the dust
I would give my flesh;
To go to my Brother now, If I could.
How great
Is the thirst that is upon my soul now,
To see thy countenance,
O delightful dawn! -
The morn of pure, eternal day;
Freely leave relative and friend
I would, to get to go
to the heavenly country.
Every time,
Farewell to thee, earthly world,
There is nothing to be had here
but woe altogether:
My precious treasure is in yonder city,
My heart is already with my Brother,
Where my flesh shall be soon.
- - - - -
There is a land,
Where I am expecting to get freedom,
From the hand of enemies
of great treachery,
Through the merit of the blood
of the worthy Jesus;
There is no enemy that shall ever
come up to
The delightful place
where I shall shortly get to live.
O let the
Best ever delightful morning come,
To those who are following his footprints,
Let all fears flee, let terror perish,
Give thy love to me, dearest Lamb,
I love the mention of the day to come.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|